Lansio Meddalwedd Swyddfa Digost
December 3, 2006
Fe lansiwyd y meddalwedd swyddfa Agored gan y Gweinidog dros Ddiwylliant Alun Pugh. Rhaglen newydd yw Agored, ac fe fydd ar gael yn rhad ac am ddim. Fersiwn o’r rhaglen OpenOffice a ddefnyddir ledled y byd ydyw: fe gafodd y gwaith lleoleiddio’i wneud ers dwy flynedd yng Nghanolfan Mercator, Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae i feddalwedd Agored rinwedd arbennig iawn: y mae hi’n rhaglen ddwyieithog Saesneg-Cymraeg.
Ffrwyth buddsoddi hael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, S4C a Bwrdd yr Iaith yw Agored er mwyn darparu meddalwedd swyddfa cyflawn yn y ddwy iaith. A chofiwch hyn – mae Agored ar gael yn rhad ac am ddim! Cewch ddadlwytho copi cyfan heddiw, a hynny yn gwbl gyfreithlon, oddi ar www.agored.com Mae ar gael i chi at bob perwyl, boed yn ddomestig, yn addysgol, yn llywodraethol neu’n fasnachol. Ewch ag Agored ar wibdaith brawf. Os bydd y modur at eich dant, cewch gadw’r allwedd!
Wrth iddo sôn am Agored, dywedodd Andrew Davies, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau yn y Senedd, Bae Caerdydd: “Bydd Agored yn offeryn defnyddiol tu hwnt i nifer o fusnesau ledled Cymru sy’n gweithredu’n ddwyieithog.” Dyma oedd sylwadau’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Y Gymraeg, a Chwaraeon, Alun Pugh: “Mae lansio’r meddalwedd swyddfa hwn yn gam mawr ymlaen tu fewn i’r strategaeth technoleg wybodaeth y mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi’i datblygu fel rhan o Iaith Pawb sef strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i’r iaith.”
“Agored yw’r prosiect meddalwedd Cymraeg mwyaf erioed,” meddai Ned Thomas, Cyfarwyddwr Academaidd Canolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. “Bu pump o dîm yng nghlwm â’r prosiect ym Mercator, a bu nifer o gyfieithwyr allanol yn gweithio arno hefyd. Cafodd mwy na hanner miliwn o eiriau eu cyfieithu, yn sgriniau cymorth ac yn rhyngwyneb, ac fe gafodd llawlyfr cwbl wreiddiol ei gyfansoddi.”
Fe ddywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: “Agored yw’r datblygiad pwysig diweddaraf mewn cyfres o ddatblygiadau ym myd technoleg Cymraeg. Mae’n syndod faint sydd ar gael erbyn hyn yn Gymraeg yn y maes. Mae hyn yn gyfraniad arall y bydd croeso mawr iddo.”
Suite meddalwedd cyflawn i’r swyddfa yw Agored. Mae rhaglen trin a phrosesu geiriau ganddo (Writer), yn ogystal â rhaglen daenlenni (Calc), rhaglen ddarlunio (Draw), rhaglen llunio a dangos sleidiau (Impress), a rhaglen fathemateg (Math). Fe fydd yn cydweithio yn esmwyth â’r ffeiliau sydd gennych ar eich cyfrifiadur eisoes, yn fformat Microsoft Word8, Excel8, neu PowerPoint8, er enghraifft.Yn anad dim, rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer y swyddfa ddwyieithog yw Agored. Caiff gwahanol ddefnyddwyr gyfnewid yn rhwydd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg heb ailgychwyn y cyfrifiadur nac ail-lwytho meddalwedd. Mae’r holl orchmynion a negeseuon cymorth ar gael yn y ddwy iaith, ac y mae’r Gymraeg a arferir yn safonol. Nodwedd arloesol arall yw’r opsiwn gwirio sillafu’r Gymraeg a’r Saesneg yn yr un testun.
Digost yw Agored i chi’u defnyddio tra mynnoch a lle y mynnoch. Fe fydd yn diwallu’ch holl anghenion meddalwedd swyddfa. Beth amdani felly? Dadlwythwch eich copi oddi ar www.agored.com
Add to favourites