Clwb Cloncan yn Rhondda Cynon Taf
January 27, 2009
Ydych chi’n chwilio am rhywle lle gallwch fynd am “glonc” tra bod y plant yn chwarae’n ddiogel mewn naws Cymraeg ?
Ydych chi, neu rhywun chi’n adnabod yn ystyried addysg Gymraeg i’ch plant neu eisiau gwybodaeth am eich Cylch Ti a Fi neu’ch Cylch Meithrin lleol. Croeso i chi ddod i’n clybiau anffurfiol newydd i rhieni ardal Rhondda Cynon Taf.
Mae na ddau Glwb Cloncan yn rhedeg yn wythnosol ar hyn o bryd. Y cyntaf yng Nghanolfan yr Urdd, Stryd y Gwynt, Aberdâr sy’n cael ei chynnal rhwng 1.30 a 3.00 bob Dydd Llun, a’r llall yn yr ystafell gyfarfod ger y caffi yng Nghanolfan Garth Olwg, Pentre’r Eglwys rhwng 1.30 a 3.30 Bob Dydd Mercher.
Os hoffech mwy o fanylion am eich Clwb Cloncan lleol, cysylltwch â Vicky Pugh ar 07500 878289 neu swyddfa’r fenter ar 01443 407570.

Add to favourites