Boreau Coffi yn Rhondda Cynon Taf

July 29, 2009

Mae nifer o barneriaethau Cymunedau’n Gyntaf o gwmpas Rhondda Cynon Taf wedi dechrau cyfres o foreau coffi i ddysgwyr Cymraeg ac i Gymry Cymraeg sydd yn byw yn yr ardaloedd. Ar gyfer y rhai sydd yn dysgu’r iaith, mae ‘na diwtor anffurfiol yn bresennol i arwain sgyrsiau, ateb cwestiynnau ac yn y blaen. Mae’r boreau yma’n cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol :

Dydd Llun 9.30 – 11.30 Rhondda Bowl Tonyrefail
Dydd Mawrth 2.00 – 3.00 Clydach Vale
Dydd Mercher 9.00-10.00 Glynfach Porth
Dydd Mercher 1.00-2.30 Glyncoch
Dydd Iau 9.30-11.30 Capel Bethleham,Tonyrefail
Dydd Gwener 10.00 – 12.00 Maes yr Hâf, Trealaw

Os hoffech fwy o fanylion am unrhywun o’r boreau coffi uchod, yna cysylltwch â’r swyddfa Cymunedau’n Gyntaf perthnasol.

Cofiwch hefyd fod na foreau coffi anffurfiol dal yn cario ‘mlaen yn rheolaidd ar agor i Gymry Cymraeg a dysgwyr yn ogystal dan adain Menter Iaith. Mae rhestr llawn o rhain iw gweld dan y ddolen GWASANAETHAU uchod.

Copyright © 2010 Rhondda Cynon Taff Online * Best viewed at screen resolution 1024 by 768